Fe fydd y cyn Brif Weinidog Tony Blair yn ymuno â gweinidogion tramor yr Undeb Ewropeaidd heddiw i drafod blocâd dadleuol Israel ar Gaza.

Ac yntau’n gennad i’r Dwyrain Canol ar ran y pwerau mawr, fe fydd yn awgrymu bod modd i’r Undeb a’r Cenhedloedd Unedig helpu trwy oruchwylio ffiniau’r ardal sydd dan reolaeth y mudiad Palesteinaidd Hamas.

Mae Tony Blair hefyd wedi codi gobeithion y byddai Israel yn fodlon llacio’r blocâd ar ôl cyfarfod Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ddydd Gwener diwethaf.

Ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae’r Israeliaid wedi ildio i bwysau rhyngwladol a sefydlu ymchwiliad i’r ymosodiad gan eu milwyr nhw ar longau cymorth oedd yn ceisio torri’r blocâd.

Fe gafodd naw o bobol – gan gynnwys nifer o ddinasyddion o Dwrci – eu lladd yn yr ymosodiad y tu allan i ddyfroedd Israel.

Yn ogystal â thri ffigwr cyhoeddus profiadol o Israel, fe fydd yna ddau sylwebydd tramor yn rhan o’r ymchwiliad – cyn arweinydd Unoliaethwyr Ulster, David Trimble, yw un o’r rheiny.

Y cefndir

Mae Israel wedi dweud eu bod yn caniatáu i gymorth dyngarol gael ei anfon i Gaza, ar yr amod ei fod yn cael ei archwilio.

Maen nhw’n dadlau fod ganddyn nhw hawl i atal cyflenwadau sydd ar eu ffordd i’r ardal, rhag ofn bod arfau’n cael eu cludo i filwyr Hamas a mudiadau terfysgol.

O’r ochr arall, maen nhw’n cael eu cyhuddo o achosi caledi mawr yn Gaza trwy rwystro nwyddau angenrheidiol rhag cyrraedd a thrwy wasgu’r economi.

Fe gynyddodd y condemnio rhyngwladol ar y blocâd ar ôl yr ymosodiad ar y llongau cymorth.

Mae Tony Blair yn gweithredu ar ran yr Undeb Ewropeaidd, y Cenhedloedd Unedig, yr Unol Daleithiau a Rwsia.

Llun: Tony Blair