Mae angen cynnal y refferendwm datganoli ar adeg a fydd yn denu’r nifer mwya’ posib o bleidleiswyr, meddai Llywydd y Cynulliad.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ailadrodd ei alwad am gynnal y bleidlais yn hydref y flwyddyn nesa’ – ar ôl etholiadau’r Cynulliad.

Fe ddywedodd wrth Radio Cymru y bore yma mai dyna’r adeg fwya’ cyfleus – fyddai hi ddim yn iawn cynnal y refferendwm yr un pryd ag etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai ac roedd yna beryg o eira yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth.

Yr ateb democrataidd, meddai, oedd “cynnal refferendwm pan mae yna fwyafrif o bobol yn abl i gymryd rhan”.

Dyna’r cyngor yr oedd wedi ei roi i Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ar ôl i brif gyfreithiwr y Cynulliad ddweud ei bod yn anymarferol yn gyfreithiol i gynnal y bleidlais yr hydref yma.

Roedd mwyafrif Aelodau’r Cynulliad wedi gobeithio am bleidlais fuan ac roedd cytundeb Cymru’n Un rhwng dwy blaid y Llywodraeth yn dweud y dylai hynny ddigwydd cyn yr etholiadau, os oedd modd.

Fe bwysleisiodd Dafydd Elis-Thomas y dylai’r holl drefniadau fod wedi eu gwneud cyn yr etholiadau fel bod y refferendwm yn rhwym o ddigwydd ychydig fisoedd wedyn.