Mae adroddiadau bod dros 75,000 o bobol wedi dianc i Uzbekistan oddi wrth y trais sy’n parhau yn Kyrgyzstan.

Mae’n ymddangos hefyd bod y nifer sydd wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro ethnig dipyn yn uwch na’r 100 sydd wedi eu cydnabod gan lywodraeth Kyrgyzstan.

Mae elusen y Groes Goch yn dweud bod 100 o gyrff wedi cael eu claddu mewn un fynwent, a’i bod yn debyg bod y cyrff sydd dal i orwedd ar y strydoedd heb gael eu cyfri.

Gwrthdaro ethnig

Kyrgiaid sydd wedi bod ymosod yn dreisgar ar bobol o dras Uzbek, gan losgi eu tai a’u busnesau.

Does dim sicrwydd ynglŷn â sut y dechreuodd y gwrthdaro, ond mae’r ddwy ochr yn beio’i gilydd.

Mae adroddiadau hefyd bod cefnogwyr i gyn Arlywydd y wlad wedi ymosod ar aelodau o’r ddwy ochr, er mwyn dechrau gwrthdaro ethnig.

Cafodd yr Arlywydd Kurmanbek Bakiyev ei ddisodli gan ymgyrch gyhoeddus ym mis Ebrill.

Mae’n debyg fod canran uchel o leiafrif ethnig y wlad, yr Uzbekiaid, yn cefnogi’r llywodraeth dros dro a ddaeth yn ei le, a bod mwyafrif y Kyrgiaid yn cefnogi’r cyn Arlywydd.

Trais

Mae’r trais gwaethaf wedi bod yn ail ddinas fwyaf y wlad, Osh, lle mae’n ymddangos fod y lluoedd diogelwch wedi colli rheolaeth. Mae’r trais wedi ymledu i dref Jalal-Abad a phentrefi cyfagos.

Mae’r ymosodwyr wedi dwyn cerbyudau arfog y fyddin ac wedi bod yn ymosod ar orsafoedd heddlu er mwyn ceisio cael rhagor o arfau.

Roedd llywodraeth dros dro Kyrgyzstan wedi gofyn i Rwsia am gymorth milwrol i reoli’r trais ond fe wrthododd Moscow ag ymyrryd ym materion mewnol y wlad.

Allweddol

Mae gan yr Unol Daleithiau a Rwsia ganolfannau milwrol yn y wlad, a oedd yn rhan o’r Undeb Sofietaidd ac sydd mewn sefyllfa allweddol y drws nesa’ i China. Dyw’r Unol Daleithiau ddim wedi derbyn cais am gymorth.

Llun: Rhai o dai’r Uzbekiaid yn llosgi yn Kyrgyzstan (AP Photo)