Mae dyn o Gymru wedi betio £37,000 mai Wayne Rooney fydd yn sgorio’r nifer fwyaf o goliau yn yng Nghwpan y Byd eleni.

Dywedodd staff yng nghangen Penfro siop betio Coral bod cwsmer lleol, sy’n dod i’r siop yn aml, wedi gosod y bet.

Methodd Wayne Rooney a sgorio wrth i Loegr chwarae gem gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau neithiwr.

Fe fydd y person sydd wedi gosod bet yn ennill £440,000 pe bai’n llwyddiannus.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth bapur newydd y Western Telegraph mai dyna’r bet mwyaf oedden nhw wedi ei dderbyn ers i’r twrnamaint ddechrau.

“Roedden ni’n disgwyl i bobol o Loegr ddechrau rhoi arian gwladgarol ar eu tîm nhw i wneud yn dda cyn y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau,” meddai.

“Ond doedden ni ddim yn disgwyl i’r bet mwyaf ddod gan Gymro!

“Efallai na fydden nhw’n cefnogi Lloegr yng Nghymru, ond bydd un dyn o leiaf yn gobeithio bod Wayne Rooney yn gwneud yn dda yn Ne Affrica.”