Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn brwydro tân mewn gorsaf betrol yn Aberpennar yng Nghwm Cynon dros nos.

Bu’n rhaid symud pobol o’u cartrefi ar ôl i’r tân ddechrau yng ngorsaf betrol Esso ar Stryd Caerdydd y dref.

Llwyddodd y gwasanaeth tân ac achub i rwystro’r tân rhag lledu o siop yr orsaf betrol i’r pympiau ac i dai gerllaw. Diffoddwyd y tân ar ôl ychydig oriau.

Cafodd criwiau tân o Aberdâr, Abercynon, Merthyr Tudful, Pontypridd a Hendy-gwyn eu galw allan i frwydro’r tân tua 2am.

Dyw’r heddlu ddim yn trin y tân fel un drwgdybus.