Mae Banc Lloegr wedi awgrymu y bydd rhai i’r gyfradd llog godi eleni er mwyn lleddfu pryderon ynglŷn â chwyddiant.

Roedd y banc wedi gobeithio y byddai chwyddiant yn disgyn yn sylweddol eleni ond bellach mae yna bryderon ei fod o’n fwy “gwydn” na’r disgwyl.

Mae chwyddiant yn 3.7% ar hyn o bryd ac mae disgwyl y bydd ffigyrau mis Mai, fydd yn cael eu cyhoeddi dydd Mawrth, yn dangos cwymp bychan iawn yn unig.

Dywedodd Andrew Sentance, aelod o bwyllgor polisi ariannol Banc Lloegr ers 2006, nad oedd o’n siŵr am faint fyddai Banc Lloegr yn cadw’r gyfradd llog ar 0.5%.

“Mae’r economi yn adfer a chwyddiant yn fwy gwydn na’r disgwyl felly fe fydd yna drafodaethau ynglŷn â’r polisi,” meddai wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Sunday Times.

Roedd Banc Lloegr yn amharod i godi’r gyfradd llog cyn hyn oherwydd bod yr economi’n fregus ac oherwydd bod yna doriadau mawr a chynnydd mewn treth ar y gorwel.

Dywedodd llywodraethwr Banc Lloegr, Mervyn King, fis diwethaf ei fod o’n credu y bydd chwyddiant yn ôl i lawr i 2% “o fewn blwyddyn”.

Un ffactor sydd wedi cadw chwyddiant yn uchel yw gwendid y bunt, sydd wedi gwthio prisiau nwyddau o dramor i fyny.