Fydd Prydain ddim yn caniatáu i’r Comisiwn Ewropeaidd weld y Gyllideb cyn iddo gael ei gyflwyno o flaen Senedd San Steffan, meddai’r Ysgrifennydd Tramor William Hague heddiw.

Daeth i’r amlwg yr wythnos diwethaf bod swyddogion yn y Trysorlys wedi trafod cynnig gan Frwsel i “adolygu” cyllideb drafft gwledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd.

Y nod fyddai osgoi cyllidebau anghyfrifol a’r problemau ariannol sydd wedi effeithio ar rai aelodau, fel Gwlad Groeg.

Mae disgwyl y bydd y syniad yn cael ei gynnig yng nghyfarfod cyntaf y Cyngor Ewropeaidd ers i David Cameron ddod yn Brif Weinidog, fydd yn cael ei gynnal ym Mrwsel dydd Iau.

Pwysleisiodd William Hague mai syniad “embryonig” oedd hon ac na fyddai yna unrhyw benderfyniad yr wythnos hon.

“Dyw hi ddim yn penderfynu y mae’n bosib i ni ei chefnogi,” meddai’r Ysgrifennydd Tramor.

“Rhaid cyflwyno cyllideb Prydain i Senedd Prydain yn gyntaf. Fe fydd yna gyfnod hir i drafod hyn ond mae ein barn ni ar y peth yn ddigon pendant.”