Mae nifer y meirw ar ôl llifogydd yn nhalaith Arkansas yn yr Unol Daleithiau dydd Gwener wedi cynyddu i o leiaf 18 o bobol.

Tarodd y llifogydd wersyll ynghanol coedwig, ond dyw’r achubwyr ddim yn siŵr faint o bobol oedd yn aros yno ar y pryd.

Cafodd cofnodion yr Albert Pike Recreation Area eu colli yn y trychineb, meddai nhw.

Mae chwech o’r rhai fuodd farw yn blant, ac mae o leiaf 24 o bobol wedi cael eu cymryd i’r ysbyty.

Gorlifodd yr Afon Little Missouri mewn dyffryn ym Mynyddoedd Ouachita ddydd Gwener ac fe gododd lefel y dŵr 2.4m mewn awr.

Roedd y llifogydd mor gryf fel eu bodod wedi dinistrio hewlydd a rhwygo coed. Mae achubwyr ar gefn ceffylau ac mewn caiacau wedi bod yn chwilio am fwy o oroeswyr yn y goedwig.