Mae gwrthryfelwyr sy’n gysylltiedig â Al Qaida wedi lladd tri dyn yn y Pilipinas er mwyn dial ar y llywodraeth am ymosod arnyn nhw yn ne’r wlad.

Lladdwyd y dynion drwy dorri eu pennau i ffwrdd wrth i’r wlad ddathlu ei annibyniaeth yn 112 oed. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau gan grŵp terfysgol Abu Sayyaf.

Ymosododd tua 30 o aelodau Abu Sayyaf ar y tri Christion wrth iddyn nhw dorri coed yn y goedwig law ger tref Maluso ar ynys Basilan, ddoe.

Daeth perthnasau o hyd i’w cyrff nhw oriau yn ddiweddarach, dywedodd pennaeth heddlu rhanbarthol Basilian, Antonio Mendoza.

Roedd Abu Sayyaf yn dial ar yr heddlu a’r fyddin am ladd sawl un o’u haelodau, meddai Antonio Mendoza.

“Pan maen nhw’n cael eu brifo gan ein hymosodiadau, maen nhw’n ymateb gyda’r erchyllterau rhain,” meddai Antonio Mendoza.

Ychwanegodd bod 675 o heddweision Basilian a 100 o filwyr yn rhan o’r helfa i ddod o hyd i’r gwrthryfelwyr.

Dyma’r ail waith i Abu Sayyaf dorri pen dioddefwr ar ddiwrnod annibyniaeth y wlad, ar ôl iddyn nhw ladd yr Americanwr Guillermo Sobero yn 2001.