Mae’r Prif Weinidog David Cameron ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi treulio tua hanner awr ar y ffôn yn ceisio atal hollt rhwng y ddwy wlad ynglŷn â chlwt olew BP.

Mae olew dal yn gollwng yng Ngwlff Mecsico a chwmni BP, neu ‘British Petrolium’ fel mae Barack Obama yn ei alw, sy’n cael y bai.

Mae yna bryder ym Mhrydain y bydd ymosodiadau’r Arlywydd yn gwneud difrod parhaol i’r cwmni sy’n rhan bwysig o economi Prydain.

Mae David Cameron dan bwysau i ofyn i Barack Obama leddfu rywfaint ar ei feirniadaeth. Mae’r Arlywydd wedi ei feirniadu am beidio ag ymateb yn gynt i’r llif olew.

Yr wythnos diwethaf fe addawodd Barack Obama y byddai’n “cicio tin” y cwmni Prydeinig, sydd hefyd yn cyflogi miloedd o bobol o’r Unol Daleithiau.

Ychwanegodd y byddai wedi diswyddo prif weithredwr BP, Tony Hayward, pe bai’n fos arno.

Mae’n debyg bod Barack Obama wedi dweud wrth David Cameron ar y ffôn nad oedd beirniadu BP “ddim byd i’w wneud gyda hunaniaeth genedlaethol”.

Dywedodd llefarydd ar ran 10 Stryd Downing bod y Prif Weinidog wedi “pwysleisio pwysigrwydd BP i economi Prydain, yr Unol Daleithiau, a gwledydd eraill”.

Dechreuodd olew ollwng i’r gwlff ym mis Ebrill pan ffrwydrodd platfform olew Deepwater Horizon, gan ladd 11 o weithwyr.

Dyma bellach yw’r trychineb waethaf yn hanes yr Unol Daleithiau, ac mae 20,000 baril o olew wedi bod yn gollwng i’r môr bob dydd.

Mae’r olew wedi cyrraedd arfordir yr Unol Daleithiau gan ddinistrio gwlypdiroedd a thraethau sy’n gartref i fywyd gwyllt.

Fe fydd cadeirydd BP, Carl-Henric Svanberg, a’r prif weithredwr, Tony Hayward, yn cwrdd â Obama yn y Tŷ Gwyn ddydd Mercher.