Mae Rwsia wedi gwrthod ymyrryd yn yr helyntion ethnig sydd wedi lladd o leia’ 77 o bobol yn Kyrgyzstan.
Ddoe, roedd rhannau o ail ddinas fwya’r wlad ar dân wrth i rai o’r Kyrgiaid ymosod ar bobol Uzbek gan ladd a llosgi.
Mewn dinas fawr arall, Jalal-abad, fe roddwyd prifysgol ar dân ac roedd yna ymosodiadau ar swyddfa heddlu ac un o gerbydau arfog y fyddin.
Mae yna o leia’ 1,000 o bobol wedi eu hanafu.
Cyrff yn y strydoedd
Yn ôl gwleidydd lleol yn Osh, roedd yr ymladd yn ddifrifol. “Mae hwn yn rhyfel go iawn,” meddai. “Mae yna gyrff yn gorwedd yn y strydoedd.”
Roedd yna adroddiadau hefyd bod plant wedi cael eu gwasgu i farwolaeth dan draed wrth i’r Uzbekiaid geisio dianc.
Mae Kyrgyzstan yn ffinio gydag Uzbekistan ac yn un o gyn-weriniaethau’r Undeb Sofietaidd. Ond fe wrthododd Rwsia apêl gan lywodraeth y wlad am gymorth milwrol.
Fydden nhw ddim yn ymyrryd ym materion mewnol Kyrgyzstan, meddai llefarydd. Ond roedden nhw’n fodlon anfon cymorth dyngarol.
Llun: Dinas Osh yn Kyrgyzstan (Alexeya – CCA2.0)