Mae bron i hanner y plant rhwng 10 a 14 oed sy’n lladd eu hunain yn gwneud hynny o ganlyniad i fwlio, yn ôl ymchwil newydd.

Lladdodd 176 o blant rhwng 10 a 14 oed eu hunain rhwng 2000 a 2008, ac yn ôl yr elusen Beatbullying roedd bwlio yn ffactor yn 78 o’r achosion rheini.

Lladdodd 1,769 o bobol ifanc rhwng 15 a 19 oed eu hunain rhwng 2000 a 2008, yn ôl Beatbullying.

Roedd hynny’n awgrymu y gallai cannoedd o bobol ifanc fod wedi lladd eu hunain o ganlyniadau i fwlio, meddai nhw.

Yn ôl yr elusen roedd pob plentyn oedd wedi ei ladd ei hun o ganlyniad i fwlio wedi eu bwlio yn yr ysgol yn bennaf. Roedd pedwar achos hefyd yn ymwneud gyda bwlio ar-lein.

Cyhoeddwyd ymchwil Beatbullying dwy flynedd ers marwolaeth Sam Leeson, 13 oed, grogodd ei hun ar ôl cael ei fwlio’n gorfforol ac ar y we.

“Mae yna gysylltiad clir rhwng bwlio a hunanladdiad plant ac nid yw’n dderbyniol fod cyn lleied o ymchwil wedi ei wneud i hyn – mae angen gweithredu nawr,” meddai Prif Weithredwr Beatbullying, Emma-Jane Cross.

“Mae angen i’r Llywodraeth ystyried pam bod plant mor ifanc â deg oed yn eu lladd eu hunain.”

Dywedodd mam Sam Leeson, Sally Cope, ei bod hi’n annog y llywodraeth i weithredu a noddi ffyrdd o leihau bwlio mewn ysgolion.

“Dwy flynedd yn ôl fe benderfynodd fy mab 13 oed, Sam, ladd ei hun o ganlyniad i fwlio. Rydw i’n gwybod o brofiad pa mor erchyll yw canlyniadau bwlio, a’r twll mae marwolaeth Sam wedi ei adael yn fy nheulu,” meddai.