Fe fydd y ddau brif swyddog ar frig y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gadael eu swyddi ynghynt na’r disgwyl.
Mae’n cael ei ystyried yn arwydd bod y Llywodraeth glymblaid newydd yn ceisio newid agweddau o fewn y gwasanaeth.
Fe gyhoeddodd y Llywodraeth eu bod wedi gofyn i Bennaeth y Staff Amddiffyn ac Is-ysgrifennydd Parhaol y Weinyddiaeth Amddiffyn roi’r gorau iddi yn yr hydref.
Roedd y Llywodraeth Lafur wedi gofyn i Syr Jock Stirrup a Syr Bill Jeffrey aros yn eu swyddi gan fis Ebrill 2011.
‘Siwtio’r Llywodraeth’
Yn ôl yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Liam Fox, roedd y ddau’n debyg o adael ar ôl yr arolwg o wario ar amddiffyn. Fe fyddai hynny’n siwtio’r Llywodraeth, meddai, ac yn deg tuag at y ddau swyddog.
Roedd cyfnod Syr Jock Stirrup ar y brig yn cyd-daro â’r cyfnod mwya’ gwaedlyd i filwyr gwledydd Prydain yn Afghanistan, gyda bron 300 bellach wedi eu lladd yno.
Roedd yna broblemau gyda chael digon o offer ac adnoddau a gwrthdaro wedi bod rhwng y Llywodraeth a’r lluoedd.
Llun: Jock Stirrup (Gwifren PA)