Mae pobol Gwlad Belg yn cymryd rhan mewn Etholiad Cyffredinol heddiw a allai arwain at chwalu’r wlad.

Mae disgwyl i blaid y Gynghrair Ffleminaidd Newydd, sydd eisiau hollti Fflandrys a Walonia, ennill yr etholiad.

Mae Bart de Wever, 39, eisiau i Fflandrys, sy’n siarad Iseldireg, dorri ei chysylltiadau gyda Walonia, ac ymuno gyda’r Undeb Ewropeaidd fel gwlad ar wahân.

Fyddai hynny ddim yn ganlyniad da i Walonia, sy’n fwy tlawd na Fflandrys ac yn dibynnu ar eu harian nhw.

Pleidleisio gorfodol

Mae pleidleisio yn y wlad yn orfodol, a bydd tua 7.7 miliwn o bobol gwlad Belg, 6.5 miliwn o’r rheiny yn siarad Iseldireg, yn pleidleisio.

Mae’r Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal flwyddyn ynghynt na’r disgwyl ar ôl i glymblaid y cyn Brif Weinidog, Yves Leterme, chwalu ar 26 Ebrill dros ddadl ieithyddol.

Dyw’r ddadl ddim wedi ei datrys ers 2003 ac mae wedi gwthio’r Gynghrair Fflemaidd Newydd, oedd yn blaid fechan iawn ychydig o flynyddoedd yn ôl, i’r brig.

Mae disgwyl i’r blaid ennill tua chwarter y bleidlais yn Fflandrys. Does yr un blaid flaenllaw yn Walonia yn ymgyrchu o blaid chwalu cysylltiadau gyda Fflandrys.