Mae Gwylwyr y Glannau wedi rhybuddio pobol i wylio rhag y llanw ar ôl i wraig gael ei hanafu ac i nifer o bobol gael trafferthion ym Mro Morgannwg.

Roedd llawer o alwadau brys wedi eu gwneud brynhawn ddoe i dynnu sylw at bobol oedd yn ceisio croesi’n ôl o ynys lanw – sy’n cael ei gwahanu oddi wrth y tir adeg llanw uchel.

Fe gafodd un wraig 72 oed ei chludo i’r ysbyty ar ôl y digwyddiad ac fe fu’n rhaid i bobol eraill gerdded trwy ddŵr oedd yn cyrraedd at eu canol.

Roedden nhw wedi croesi i Ynys Sili sydd yn y môr rhwng Penarth a’r Barri ac wedi cael eu dal gan y llanw…

Yn ôl Gwylwyr y Glannau Abertawe, roedd hi’n bwysig bod pobol yn rhoi sylw i’r arwyddion oedd yn rhybuddio am y llanw a’r amseroedd diogel i groesi.

Llun: Rhan o Ynys Sili (Richard Knights CCA2.0)