Mae tîm rygbi’r Alban wedi maeddu’r Ariannin yn Tucuman, y tîm cyntaf erioed i wneud hynny.

Dan Parks oedd yr arwr unwaith eto wrth i’r Alban frwydro’n ôl o 13-6 i ennill y gêm 16-24.

Yr Alban oedd yr unig dîm o hemisffer y gogledd i lwyddo yn y de’r penwythnos hwn, wrth i Loegr golli 27-17 yn erbyn Awstralia yn Perth.

Cafodd Iwerddon eu dinistrio 66-28 gan Seland Newydd yn New Plymouth ar ôl i Jamie Heaslip gael ei yrru o’r cae, ac fe gollodd Ffrainc 42-17 yn erbyn De Affrica yn Cape Town.

Doedd Cymru ddim yn chwarae’r penwythnos yma ond fe fydden nhw’n wynebu Seland Newydd dydd Sadwrn nesaf.

Parks perffaith

Parks oedd arwr y Chwe Gwlad i’r Alban ar ol maeddu Iwerddon yn Croke Park a bron a llwyddo i wneud yr un peth yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Ciciodd y maswr 32 oed chwe chic gosb a dwy gic adlam yn erbyn yr Ariannin er mwyn sicrhau’r fuddugoliaeth.

Er hynny roedd hi’n edrych yn ddu i’r Alban yn gynnar yn yr hanner cyntaf wrth i Gonzalo Tiesi a Juan Manuel Leguizamon sgorio ceisiau i’r Pumas.

Ond roedd yr Alban mewn rheolaeth lwyr yn yr ail hanner wrth i’r Archentwyr gael eu cosbi am droseddau wrth dwrio am y bel.

Dim ond wyth o’r naw gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm oedd yr Alban wedi ei ennill. Doedd yr Ariannin, sydd yn yr un grŵp a’r Alban yng Nghwpan y Byd flwyddyn nesaf, erioed wedi colli mewn saith gem yn Tucuman.