Mae gôl-geidwad Lloegr, Robert Green a sianel ITV dan y lach bore ‘ma ar ôl i’r ddau wneud camgymeriadau ofnadwy yn gêm gyntaf Lloegr yng Nghwpan y Byd De Affrica.

Roedd Lloegr ar y blaen ar ol pedwar munud yn eu gem yn erbyn yr Unol Daleithiau ond diolch i broblem dechnegol ar ITV HD fe fethodd y sianel a dangos y gol.

Ychydig eiliadau cyn i Steven Gerrard sgorio fe aeth y sianel i hysbyseb ceir Hyundai ac erbyn iddyn nhw ail ymuno gyda’r gêm roedd o eisoes wedi gorffen dathlu.

Diflannodd y signal HD am rannau helaeth o’r gêm hefyd. Ymddiheurodd cyflwynydd pêl-droed ITV, Adrian Chiles, am y camgymeriad ar hanner amser.

Mae Cadeirydd ITV, Michael Grade, bellach wedi ymddiheuro am y “camgymeriad anesgusodol”.

Daeth ail gamgymeriad mawr y gêm yn hwyr yn yr hanner cyntaf pan fethodd gôl-geidwad Lloegr, Robert Green, a dal y bel yn iawn gan adael iddo lithro o’i afael ac i mewn i gefn y rhwyd.

‘Hand of clod’ yw prif bennawd papurau newydd y News of the World a’r Sunday Mirror bore ma, ar ôl i’r gêm orffen 1 – 1.

Dywedodd hyfforddwr Lloegr, Fabio Capello, ei fod o’n credu bod Robert Green “wedi chwarae yn dda, heblaw am y camgymeriad”.

“Costiodd un camgymeriad yn ddrudfawr i ni ond mae gôl-geidwad yn gwneud camgymeriad weithiau, dyna ydi pêl-droed.”