O dan hyfforddiant Diego Maradona, llwyddodd yr Ariannin i guro Nigeria 1-0 yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd yn Johannesburg heddiw.

Fe wnaeth Gabriel Heinze benio’r unig gôl ar ôl pum munud, ond Lionel Messi oedd seren y gêm, gan ddangos ei fod yn gallu disgleirio dros ei wlad yn ogystal â thros ei glwb Barcelona.

Fodd bynnag, ni lwyddodd ef a’i gyd-chwaraewyr i sgorio mwy oherwydd roedd goliwr Nigeria, Vincent Enyeama yn llwyddo i’w rhwystro dro ar ôl tro.

Mae’n gwestiwn a allai’r Ariannin fforddio gwastraffu cymaint o gyfleon yn erbyn timau gwell, ond mae’n debyg fod Maradona’n fodlon ar ôl sicrhau tri phwynt heddiw.

Llun: Lionel Massi yn gwibio trwy chwaraewyr Nigeria yn y gêm Grwp B rhwng yr Ariannin a Nigeria yn stadiwm Ellis Park yn Johannesburg heddiw (AP Photo/Luca Bruno)