Mae merch 16 oed o America a oedd yn ceisio hwylio o amgylch y byd ar ei phen ei hun wedi cael ei hachub o gefnfor India.

Roedd Abby Sunderland wedi cael ei dal mewn tonnau garw ers ddydd Iau ar ôl i’w mast ddymchwel a dinistrio ei chysylltiad lloeren.

Cafodd ei gweld yn eich chwch hwylio ar ôl i Awdurod Diogelwch Môr Awstralia anfon awyren i chwilio amdani, ac wedyn cafodd un o longau pysgota Ffrainc ei gyrru ati o ynys Reunion.

Roedd Abby wedi cychwyn ar ei thaith o Los Angeles ar Ionawr 23, gan geisio dod y
person ieuengaf i hwylio o amylch y byd ar ei phen ei hun.

Mae llawer o hwylwyr profiadol o’r farn mai annoeth oedd ceisio croesi cefnfor India yr adeg yma o’r flwyddyn. Gall y tonnau anferth ym moroedd hemisffer y de daflu cwch bach am tua 30 awr a mwy ar y tro.

Llun: Y cwch pysgota Ffrengig Ile de La Reunion a achubodd yr anturiaethwraig ifanc heddiw.