Roedd torf o tua 2,000 o bobl yn Llanwrtyd heddiw’n gwylio’r ras flynyddol rhwng dyn a cheffyl yn y dre fach yn ne-orllewin Powys.

Gyda 44 o geffylau a’u marchogion yn rhedeg yn erbyn 253 o redwyr unigol a 115 o dimau cyfnewid, dim ond un ceffyl a oedd ar y blaen i’r rhedwr cyflymaf.

Llwyddodd Llinos Mair Jones i gwblhau’r cwrs 22 milltir mewn 2 awr, 7 munud a 4 eiliad – tua 10 munud yn gynt i’r rhedwr cyflymaf, Haggai Chetkwang, 40 oed o Fryste a redodd y ras mewn 2 awr 17 munud a 27 eiliad.

Ceffyl sydd wedi ennill pob un ond dwy o’r 31 ras dyn yn erbyn ceffyl yn Llanwrtyd.

Y tro cyntaf i ddyn guro’r ceffylau oedd yn 2004, ac enillodd y buddugwr £25,000 mewn arian gwobrau a oedd wedi cronni dros y blynyddoedd. Y tro arall i hyn ddigwydd oedd dair blynedd yn ddiweddarach yn 2007, ond nid oedd y wobr wedi tyfu cymaint y tro hwn, a £3,000 a gafodd yr enillydd o’r Almaen.

“Does erioed gymaint o geffylau wedi cymryd rhan ag a wnaeth heddiw,” meddai Gordon Green, sylfaenydd y digwyddiad. “Roedd mwy o geffylau’n rhedeg nag yn y Grand National!”

Llun: o wefan Llanwrtyd