Mae’r dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio tair menyw yn Bradford wedi cael ei drin gan feddygon ar ôl digwyddiad o niweidio’i hun.
Cafodd Stephen Griffiths, 40 oed o Bradford ei symud i adain gofal carchar Wakefield lle mae’n cael ei ddal.
Mae adroddiadau iddo gael ei ganfod yn anymwybodol ar lawr ei gell gyda hosen wedi clymu o amgylch ei wddf.
Does dim manylion ynglŷn â difrifoldeb yr anafiadau nac a yw wedi cael ei ryddhau o’r adain gofal meddygol.
Cefndir
Mae Stephen Griffiths wedi cael ei gyhuddo o ladd tair putain yn ardal Bradford dros y flwyddyn ddiwethaf, sef Suzanne Blamires, Shelley Armitage a Susan Rushworth.
Pan ymddangosodd yn Llys y Goron Bradford fe gyfeiriodd ar ei hun fel “The Crossbow Cannibal”, pan ofynwyd iddo gadarnhau ei enw.
Roedd Stephen Griffiths yn gwneud ymchwilio ôl-radd troseddeg ym Mhrifysgol, ac fe gafodd ei arestio ar 24 Mai yn ei gartref ar gyrion ardal golau coch y ddinas.