Mae un o’r ceffylau blaen yn y ras i olynu Gordon Brown fel arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud ei fod yn cefnogi datganoli mwy o rym i Senedd yr Alban.

Daeth sylw’r cyn Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, wrth iddo ymweld â’r Alban i ymgyrchu am gefnogaeth gan wleidyddion Llafur ac ymgyrchwyr lleol.

Tra oedd yno, dywedodd ei fod yn cefnogi adroddiad Comisiwn Calman, a wnaeth alwad y llynedd am y grymoedd ychwanegol.

“Rydw i wastad wedi credu bod ailddosrannu grym, yn ogystal ag ailddosrannu cyfoeth a chyfleoedd, yn rhan bwysig o neges Llafur,” meddai.

“Rydw i’n gweld cryfder cynyddol datganoli yn ategu Teyrnas Unedig go iawn.”

Comisiwn Calman

Roedd galwadau’r Comisiwn Calman yn cynnwys datganoli mwy o rymoedd codi trethi, yn ogystal â rheolaeth dros feysydd megis yfed a gyrru, cyfyngiadau cyflymder a drylliau awyr.

Ond mae Llywodraeth glymbleidiol y Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael gwared ar bapur gwyn y Blaid Lafur a ddaeth yn sgil galwadau’r comisiwn.

Mae’r Llywodraeth newydd wedi dweud y bydd yn symud ymlaen â’i chynlluniau’i hun.

Hysting

Daw ymweliad David Miliband cyn cyfarfod hysting yng Nglasgow ddydd Sul, rhwng y pump sy’n ymgeisio i arwain y Blaid Lafur.

Yr ymgeiswyr eraill yw llefarydd ynni’r Wrthblaid, Ed Miliband; llefarydd addysg yr Wrthblaid, Ed Balls; llefarydd iechyd yr Wrthblaid, Andy Burnham; a’r gwleidydd adain chwith o’r meinciau cefn, Diane Abbott.

Llun: David Miliband yn cyfarfod Iain Gray, arweinydd Llafur yn senedd yr Alban a Jim Murphy, Ysgrifennydd yr Alban, ar ei ymweliad â’r Alban heddiw (Danny Lawson/Gwifren PA)