Mae tua hanner y plant yng ngwledydd Prydain yn dysgu am fwyd drwy fynd i’r archfarchnad yn hytrach nag ymweld â chefn gwlad, yn ôl arolwg.

Roedd canran helaeth o’r 3,000 o rieni dinesig a holwyd gan archfarchnad Waitrose yn dweud hefyd eu bod yn dibynnu ar deganau o anifeiliaid ffarm a phenillion i addysgu eu plant.

Mewn gwrthgyferbyniad, roedd 68% o’r rhieni eu hunain a gafodd eu holi wedi dysgu am fwyd drwy ymweld â chefn gwlad a thrwy dyfu llysiau.

Heb fod ar fferm

Roedd plant 45% o’r rhai a holwyd heb erioed fod i ymweld â fferm, ac roedd bron un mewn 10 wedi dweud nad oedden nhw erioed wedi mynd â’u plant am dro i gefn gwlad.

Roedd 28% wedi dweud nad oedden nhw’n ymweld â chefn gwlad yn gyson, a chymaint â 59% yn credu bod eu plant yn elwa cymaint o fod mewn parciau dinesig ag o ymweld â chefn gwlad.

Dywedodd 51% nad oedden nhw erioed wedi mynd â’u plant i gasglu ffrwythau – doedd gan 18% mo’r amser, ac roedd 30% yn credu nad oedden nhw’n byw yn ddigon agos i unrhyw le addas.