Mae tri o bobl o Brydain wedi marw mewn damwain bws yn Ne Affrica.

Cafodd dwy fyfyrwraig eu lladd yn y fan a’r lle, a bu farw trydydd teithiwr, dyn, mewn ysbyty’n ddiweddarach ar ôl cael ei gludo yno mewn hofrennydd. Mae tua 20 o deithwyr eraill wedi cael eu hanafu, rhai ohonyn nhw’n ddifrifol.

Roedd y bws yn cludo grŵp o fyfyrwyr oedd yn bwriadu dychwelyd i Brydain yfory.

“Mae’n debyg fod y gyrrwr wedi colli rheolaeth gan fod y bws wedi troi drosodd,” meddai Capten Leonard Hlathi o’r heddlu.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ychydig filltiroedd o Barberton ar ffordd Bulembu. Mae’r 20 sydd wedi’u hanafu’n cynnwys 18 o Brydeinwyr, tywyswr y daith a’r gyrrwr.

Mae’r Uchel Gomisiwn Prydeinig wedi dweud eu bod nhw ar ddeall bod y myfyrwyr o Melton Mowbray yn Swydd Caerlŷr.

Roedd y myfyrwyr wedi cyrraedd y wlad ar 1 Mehefin ac i fod i adael yfory.

Llun: Tref Barberbon lle digwyddodd y ddamwain ddifrifol