Mi fydd baner Lloegr yn chwifio uwchben 10 Stryd Downing yn ystod pencampwriaeth bêl-droed Cwpan y Byd yn Ne Affrica.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi dweud na fydd yn costio dim i’r trethdalwr, a’i fod yn gobeithio y bydd baner San Siôr yn cynorthwyo i uno gwledydd Prydain i gefnogi tîm Lloegr.

Nid oes yr un o dimoedd eraill y Deyrnas Unedig drwodd i rowndiau terfynol y gystadleuaeth sy’n dechrau ddydd Sadwrn.

Does dim cadarnhad os bydd y faner yn cael ei thynnu i lawr petai Lloegr yn cael ei chicio allan o’r gystadleuaeth cyn y rownd derfynol.

Jac yr Undeb

Mi fydd ysgrifenyddion gwladol y Llywodraeth yn cael dewis hedfan baner San Siôr hefyd, ond mi fydd angen iddyn nhw osod polyn ychwanegol, gan fod rhaid iddyn nhw hedfan Jac yr Undeb yn ogystal.

Jac yr undeb sydd fel arfer yn chwifio uwchben tŷ’r Prif Weinidog.