Mae cyn-fowliwr Morgannwg, Simon Jones, ar fin dychwelyd i chwarae ar ôl dros flwyddyn allan o’r gêm oherwydd anaf.
Mae anaf i ben-glin wedi atal Jones, sydd hefyd yn un o gyn-chwaraewyr Lloegr, rhag chwarae ers mis Awst 2008.
Ond mae’r Cymro wedi chwarae dwy gêm i ail dîm Hampshire ac mae’n gobeithio dychwelyd i chwarae yn y gystadleuaeth Ugain20 yn fuan.
“Rwy’n awyddus i chwarae,” meddai Jones wrth Radio BBC Solent. “Fe fyddaf yn gweithio mwy ar fy ystwythder oherwydd mae’r gêm Ugain20 yn anodd gan fod gymaint o redeg yn ystod y gêm. Mae ychydig yn wahanol i’r gemau tri diwrnod.”
Mae cyfres o anafiadau wedi effeithio ar yrfa’r bowliwr cyflym ers ei gyfraniad allweddol i helpu Lloegr i sicrhau Cyfres y Lludw yn 2005.
Ond bydd Hampshire yn awyddus i’w gael yn ôl yn chwarae am y tro cyntaf ers arwyddo o Swydd Caerwrangon ym mis Medi llynedd.