Mae tîm dan 20 Cymru wedi parhau gyda’u dechrau addawol i Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn yr Ariannin gyda buddugoliaeth 31-3 yn erbyn Fiji yn Parana.
Roedd Cymru eisoes wedi maeddu Samoa 22-13 dros y penwythnos, ac mae’r tîm ifanc wedi dilyn hynny gyda’u hail fuddugoliaeth neithiwr.
Fe sgoriodd maswr y Gweilch ac Aberafan, Matthew Jarvis, 14 pwynt i Gymru.
Roedd Cymru 6-0 ar y blaen o fewn deng munud gyda dwy gic gosb, cyn i Fiji daro’n ôl gyda’u hunig bwyntiau o’r gêm.
Fe gynyddodd Cymru eu mantais gyda chais gan Ben John a throsiad gan Jarvis. Fe aeth Cymru ymhellach ar y blaen gyda chais gan chwaraewr Pontypwl, Morgan Allen, ychydig dros hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf.
Fe aeth Fiji lawr i 13 dyn gyda Kolinio Nalasekata ac Emosi Ugavule yn cael eu hanfon i’r gell cosb, gan alluogi Cymru i reoli’r chwarae ymhellach cyn yr egwyl.
Fe ychwanegodd Jarvis ei bedwaredd gic gosb o’r gêm yn yr ail hanner cyn i Steve Shingler sgorio cais hwyr i sicrhau buddugoliaeth gadarnhaol i dîm Phil Davies.
Bydd Cymru’n wynebu Seland Newydd yn Santa Fe dydd Sul yng ngêm olaf ei grŵp.