Mae’r Dreigiau wedi arwyddo cefnwr Canada, Matt Evans ar gytundeb blwyddyn.
Bydd Evans, sy’n gallu chwarae fel maswr hefyd, yn ymuno â’r rhanbarth ar ôl gorffen chwarae i Ganada yng Nghwpan Churchill yn yr Unol Daleithiau.
“Mae Matt yn chwaraewr ifanc cyffrous ac fe fydd yn aelod gwethfawr o’r garfan,” meddai Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Robert Beale.
“Fe ddaeth i’n sylw ni yn dilyn argymhellion Alan Lewis o Goleg Hartpury a Geraint John sy’n ran o staff Canada.
“R’y ni’n falch iawn o’r enw da ry’n ni’n ei gael am roi cyfleoedd i chwaraewyr ifanc, ac fe fydd Matt yn setlo mewn yn dda gyda’n steil o rygbi ry’n ni am ei gynnal gyda’r Dreigiau,” ychwanegodd Robert Beale.