Fe fydd y Llywodraeth yn edrych ar ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â llwynogod trefol ar ôl i lwynog ymosod ar ddwy ferch naw mis oed yn eu cartref yn Llundain, meddai Arweinydd Tŷ’r Cyffredin heddiw.
Mae’n ymddangos bod y llwynog wedi mynd i mewn trwy ddrws oedd yn agored oherwydd y gwres ac wedi mynd i’r ystafell wely lle’r oedd Lola ac Isabella Koupparis yn cysgu.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Sadwrn yn Homerton yng ngogledd Llundain – mae yna gynnydd mawr wedi bod mewn llwynogod dinesig ac fe gafwyd ymosodiadau tebyg o’r blaen.
‘Llythyrau’
Yn ystod cwestiynau – fe ddywedodd y cyn-weinidog Llafur Meg Hillier ei bod wedi derbyn ‘nifer o lythyrau’ gan etholwyr am lwynogod.
“Gan fod gennym ni ryw syniad o gynlluniau y Llywodraeth i ddelio â hela llwynogod, oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau i edrych ar y deddfwriaeth sy’n ymwneud â llwynogod trefol?” meddai Meg Hillier.
“Rydych chi’n codi mater difrifol ac mae’r Tŷ cyfan yn cymdymdeimlo â theulu’r efeilliaid,” meddai Syr George Young cyn dweud y bydd yn “codi’r mater gyda’r ysgrifennydd cartref”.
“Byddaf yn codi’r mater gyda’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, ac yn gofyn a oes angen rhagor o ganllawiau neu newid yn y gyfraith. Ond, rwy’n gobeithio y gallwn ffeindio ffyrdd eraill o ddelio â’r risgiau,” meddai.
Llun: Llun o lwynog ifanc y tu allan i gartref yr effeilliaid, a gafodd ei dynnu gan blismon wedi’r ymosodiad