Mae adolygiad brys ar y gweill ar ôl i’r heddlu chwilio “miloedd o bobl” o dan bwerau gwrth-derfysgaeth yn anghyfreithlon.

Mae swyddogion yn ymchwilio i 40 o achosion lle mae heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr wedi camddefnyddio pwerau Deddf Terfysgaeth 2000.

Yn ôl y Swyddfa Cartref mae camgymeriadau gwaith papur yn golygu nad oedd uwch swyddogion wedi cael y caniatâd cywir i weithredu’r gyfraith.

Mae cyfres o gamgymeriadau wedi’u nodi mewn ceisiadau gan heddluoedd gan gynnwys Heddlu’r Metropolitan a heddloedd rhanbarthol rhwng 2001 a 2008.
‘Stopio a chwilio’

Mae’r camgymeriadau’n hyn wedi digwydd drwy ddefnydd heddluoedd o bwerau stopio a chwilio o dan adran 44 o Ddeddf Terfysgaeth. Mae’r pwerau hyn yn galluogi swyddogion i stopio a chwilio unrhyw un – heb fod angen am amheuaeth “resymol” o angenrheidrwydd.

Yn ôl y Gweinidog Diogelwch, y Farwnes Neville-Jones daeth y gwallau hyn i law yn ystod adolygiad mewnol gan y Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth y mis diwethaf.

Mae gweithrediadau annilys sy’n gysylltiedig â Heddlu Sussex a Heddlu De Cymru wedi’u hamlygu i’r senedd o’r blaen.

Mewn datganiad pellach, fe ddywedodd y Farwnes Neville-Jones ei bod “yn pryderu’n fawr” am y gwallau gweinyddol ac fe ddywedodd y byddai’r adolygiad yn cael ei gyhoeddi “cyn gynted â phosibl.”