Mae prif weithredwr newydd Caerdydd wedi cadarnhau bod eu dyled i’r adran Cyllid a Thollau wedi cael ei dalu.
Bydd yr Adar Glas yn ymddangos o flaen yr Uchel Lys dydd Mercher nesaf i wynebu gorchymyn dirwyn y clwb i ben.
Ond mae Gethin Jenkins wedi dweud bydd y clwb yn cadarnhau yn y gwrandawiad bod y ddyled o £1.9m wedi cael ei dalu.
“Gallaf gadarnhau bod y ddyled i’r adran Cyllid a Thollau wedi cael ei dalu’n llawn,” meddai’r prif weithredwr wrth bapur yr Echo.
Fe dreuliodd y clwb mwyafrif o’r tymor diwethaf yn y llysoedd wrth i’r adran Cyllid a Thollau eu herlid dros y ddyled.
Fe aeth y clwb i’r llys am y tro cyntaf ar 25 Tachwedd 2009 ac fe gafwyd tan 3 Chwefror 2010 i dalu’r ddyled.
Yn dilyn gwrandawiad arall ar 11 Mawrth, fe gafodd y clwb mwy o amser eto i dalu’r swm, ac erbyn i’r Adar Glas ymddangos yn y llys ar 5 Mai, roedden nhw’n gallu cyflwyno manylion o fuddsoddiad y dynion busnes o Falaysia, Dato Chan a Vincent Tan.
Mae’r arian a defnyddiwyd i dalu’r ddyled wedi cael ei fenthyg wrth gwmni Player Finance Fund, tra’r oedd Peter Ridsdale dal yn gadeirydd.
Mae disgwyl i gadeirydd newydd y clwb, Dato Chan ddychwelyd i dde Cymru yfory i gynnal trafodaethau pellach ynglŷn â dyfodol ariannol y clwb.