Mae Undeb Rygbi Cymru yn awyddus i gynnal rownd derfynol Cwpan Amlin yn Stadiwm y Mileniwm ar yr un penwythnos â rownd derfynol Cwpan Heineken.

Mae awdurdod rygbi Cymru wedi cynnig cynnal y Cwpan Amlin y noswaith cyn brif gystadleuaeth Ewrop ym mis Mai.

Fel arfer dyw lleoliad rownd terfynol Cwpan Amlin ddim yn cael ei ddewis tan i’r gystadleuaeth cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Ond mae Undeb Rygbi Cymru’n credu byddai cynnal y ddwy rownd derfynol yn yr un lleoliad a phenwythnos yn codi proffil y gystadleuaeth a rhoi hwb i werthiant tocynnau.

Mae’r undeb yn credu byddai cael sicrwydd o ble mae’r rownd derfynol yn cael ei chynnal yn helpu denu mwy o bobl i drefnu taith i brifddinas Cymru am benwythnos o rygbi.

Ond mae yna adroddiadau fod awdurdod rygbi Ewrop yn awyddus i gadw at y system bresennol o gynnal y rowndiau terfynol ar benwythnosau a lleoliadau gwahanol.