Mae nifer y troseddwyr sy’n cael eu cosbi am gario cyllell wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ffigurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw.
Mae’r Heddlu ynghyd â llysoedd Cymru a Lloegr wedi delio gyda 5,300 o bobl yn chwarter cyntaf y flwyddyn hon, sydd 22% yn llai na’r 6,800 yn ystod yr un cyfnod y llynedd.
Fe gafodd y newid mwyaf amlwg ei weld ymhlith pobl ifanc – gyda 1,000 o droseddwyr yn cael eu cosbi o’i gymharu â 1,400 y flwyddyn ddiwethaf – gostyngiad o 30%.
Yn y cyfamser, mae cyfran y troseddwyr sy’n cael rhybuddion wedi gostwng o 25% i 21% wrth i’r Heddlu ddelio gyda 1,100 o droseddau yn y modd hwn.
Roedd gostyngiad bychan ar ffigurau 2009 yn y troseddwyr a gafodd eu carcharu ar unwaith – sef 19%, neu 1,000 o ran nifer,
Fe gafodd dedfrydau llymach eu cyflwyno ar gyfer troseddau’n ymwneud â meddiant cyllell ym Mai 2008.
Eisoes, mae uwch farnwyr wedi dweud y dylai ynadon ddefnyddio’u “pwerau llymaf” wrth ddelio â throseddau cyllell oherwydd “cyfradd uchel troseddau o’r fath.”
Mae ffigyrau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn cynnwys ffigyrau heddluoedd a llysoedd yng Nghymru a Lloegr rhwng 1 Ionawr a mis Mawrth 31.