Mae David Cameron wedi dweud y bydd lluoedd arfog Prydain yn derbyn £67 miliwn yn ychwanegol ar gyfer mynd i’r afael â bomiau ochr ffordd yn Afghanistan.
Daeth ei gyhoeddiad yn ystod ei ymweliad cyntaf â’r wlad fel Prif Weinidog heddiw.
Mae’n ystyried bod Afghanistan yn holl bwysig a bod 2010 yn “flwyddyn dyngedfennol”, yn dilyn trafodaethau efo’r Arlywydd Hamid Karzai.
Cyhoeddodd hefyd y bydd £200 miliwn ychwanegol yn cael ei roi tuag at adeiladu byddin, heddlu a gwasanaeth sifil Afghanistan, er mwyn cyflymu gallu’r wlad i ddygymod â’i sefyllfa ddiogelwch ei hun.
Gall hyn fod yn arwydd ei fod am symud tuag at dynnu lluoedd Prydain o’r wlad yn y diwedd, ond dywedodd nad yw’n ystyried anfon rhagor o filwyr yno.
“Does neb am weld milwyr Prydain yn Afghanistan funud yn hirach nag sydd ei angen”, meddai.
Llun: Y Prif Weinidog David Cameron yn cynnal cynhadledd newyddion ar y cyd ag Arlywydd Afghanistan, Hamid Karzai (Stefan Rousseau/PA Wire)