Mae angen newid radical ar y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru, meddai un o ddwy blaid Llywodraeth y Cynulliad.

Yn ôl Helen Mary Jones, llefarydd iechyd Plaid Cymru, mae’r newyddion mai’r gwasanaeth yng Nghymru yw’r arafa’ wrth ateb galwadau brys yn tanlinellu’r angen am ei aildrefnu’n llwyr.

Roedd hi’n ymateb i ffigurau a gyhoeddwyd gan y BBC yn dangos ei bod yn cymryd cyfartaledd o wyth munud thri chwarter i barafeddygon gyrraedd mewn achosion brys yng Nghymru yn 2009.

Roedd hynny funud a hanner yn arafach nag yn yr Alban a mwy na dau funud yn arafach nag yn Llundain.

Er bod yr amseroedd wedi gwella yn y misoedd diwetha’, mae Helen Mary Jones yn dweud bod rheolwyr yn rhy bell oddi wrth y gweithwyr sy’n rhoi’r gwasanaeth ac oddi wrth y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.

“Rhaid aildrefnu’r gwasanaeth er mwyn goresgyn y problemau difrifol sydd ganddo mewn sawl rhan o Gymru,” meddai.

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Andrew R T Davies, hefyd wedi galw ar i’r Llywodraeth weithio gyda’r gwasanaeth i wella ei berfformiad ymhellach.