Mae penderfyniad y Gweinidog Iechyd i gynnal ymchwiliad i bryderon iechyd yn ardal gwaith sment yn Sir y Fflint, wedi’i groesawu yn lleol.
Ond mae Aelod Cynulliad y gogledd wedi galw am sicrwydd y bydd yr ymchwiliad yn agored am yr effaith ar iechyd.
Roedd Mark Isherwood wedi cefnogi cais Cyngor Cymuned Penyffordd am ymchwiliad yn sgìl pryderon am achosion o ganser yn yr ardal.
Yn gynharach eleni cafodd gwaith Hanson Cement yn Padeswood ei ddirwyo ar ôl i Asiantaeth yr Amgylchedd ddod ag achos yn eu herbyn yn ymwneud a llwch a sŵn o’r safle.
Wythnos yn ôl cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y bydden nhw yn “ymchwilio i bryderon iechyd gan arweinwyr cymunedol ynglŷn â gwaith Hanson Cement yn Padeswood, Sir y Fflint”.
Pryderon am y llwch yn lleol
Mae cynrychiolydd Penyffordd ar Gyngor Sir y Fflint eisoes wedi cael gwahoddiad i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad.
Yn ôl Cindy Hinds mae gan drigolion yr ardal bryderon iechyd ers nifer o flynyddoedd a’u bod nhw am gael gwybod os oes cysylltiad rhwng y gwaith sment ac achosion o gancr yn lleol.
“Does gennym ni ddim tystiolaeth o hynny,” meddai Cindy Hinds “ond yr yden ni am wneud yn siŵr.”
Dros y blynyddoedd mae cyfnodau ble mae cymaint o lwch wedi dod o’r gwaith sment nes bo’r ceir a’r cloddiau’n wyn, meddai.
“Yn hollol wyn! Doedd yna’r un clawdd gwyrdd ym Mhenyffordd oherwydd y gwaith sment. Byddai’r llwch yn gorchuddio ceir a’r ffenestri ac roedd pobol yn bryderus beth oedd yn mynd mewn i’w hysgyfaint.
“Fyddai pobol yn cwyno a byddai rhywun (o’r gwaith sment) yn dod allan ac yn golchi’r ceir,” meddai.
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 10