Mae un o artistiaid mwya’ Affrica wedi bod mewn canolfannau ailgylchu a thomenni gwastraff ar hyd arfordir gogledd Cymru, er mwyn creu “cawl” artistig.
Mae gwaith Dilomprizulike o Lagos yn Nigeria i’w weld yn oriel newydd Mostyn, Llandudno, ar hyn o bryd.
Yn y gorffennol mae’r artist, sy’n galw’i hun yn ‘Jyncman o Affrica’, wedi gwneud gwaith ar gyfer Oriel Haywood, yr Amgueddfa Brydeinig a’r Victoria and Albert, a’r Tate yn Llundain.
Coginio’r cawl
“Mae hi wastad yn wahanol pan dw i’n mynd o un wlad i’r llall,” meddai Jyncman.
“Dw i yn defnyddio cynhwysion y bobol i goginio’r cawl iddyn nhw. Felly dw i’n mynd i ddefnyddio jync Gymreig i roi fy argraffiadau i o Gymru,” meddai.
Mae ganddo amgueddfa jync enfawr yn Lagos – fersiwn lai ohoni yw’r un yn Llandudno.
“Dw i’n gwneud sylw ar letchwithdod cyffredinol y gymdeithas fyd-eang,” meddai.
“Mae’r ddinas yn grochan o gawl. Dw i yn defnyddio’r jync Gymreig i goginio’r soup Cymreig. Y cawl.”
Yr oriel newydd
Mae oriel newydd Mostyn newydd ail agor ar ôl cael ei adnewyddu gyda £5 miliwn.
“Mae’r bensaernïaeth yn ystyrlon, o ran ffurf a chysyniad.” meddai’r Jyncman.
“Roedd yr oriel yn fach, nawr mae e wedi tyfu. Mae i fod yn gam ymlaen yn y sin gelf, ac mi allai dyfu yn amgueddfa i Gymru os yr ydych chi eisiau’r datblygiad hynny.”
Fe all y Mostyn ddenu pobol o bedwar ban byd nawr, yn ôl y Jyncman.
“Mae e’n rhyngwladol – dyna pam dw i yma! Petaen nhw eisiau iddo gynnwys pethau Cymreig yn unig, fydden nhw ddim yn cael y gweithiau fel hyn yma.
• Bydd ‘Amgueddfa Iard Jync o Bethau Lletchwith’ gan y Jyncman o Affrica i’w weld tan Hydref 16
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 10