Mae un o hoelion wyth y Sîn Roc Gymraeg yn mudo i Ganada. Ond cyn gadael, mae’n siarad yn blaen am drafferthion y Sîn Roc Gymraeg wrth gylchgrawn Golwg …
Yn 2001 fe wnaeth Dai Lloyd sefydlu cwmni recordiau er mwyn rhyddhau caneuon ei brosiect cerddorol personol.
Ar y pryd doedd gan neb arall ddiddordeb mewn rhyddhau E.P. Skep, Bingo, felly’r ateb syml oedd sefydlu label Dockrad.
Cafodd Bingo groeso trawiadol, gyda’r caneuon Cymraeg yn cael eu chwarae ar Radio 1, ar raglen Mark Radcliffe – Mark and Lard’s Afternoon Show.
Ar yr un diwrnod roedd Adam Walton yn chwarae’r E.P. ar Radio Wales, a’r DJ enwog John Peel yn chwarae ‘Bingo’ ar ei sioe anfarwol ar Radio 1.
Od jobio yn Clwb
Wrth gynnal Dockrad, bu Dai Lloyd yn gwneud pob mathau o swyddi yng Nghlwb Ifor Bach ers 1994, gan gynnwys codi peints, chwarae recordiau, sychu llestri… ac yn ddiweddar rhoi stamp y Clwb ar dafarn Y Fuwch Goch.
Ond mae Is-reolwr Busnes prif lwyfan rocio Cymru wedi penderfynu gadael.
“Ddim yn siŵr rili,” meddai Dai Lloyd yn ei lais distaw, digyffro wrth geisio esbonio ei benderfyniad i roi’r gorau i fiwsig Cymraeg.
“Mae’n amser am change, ac mae’n rhywbeth sydd wedi apelio ers sbel.”
Cyn codi pac a symud i Ganada i fentro i fywyd newydd gyda’i wraig a dau o blant yn Vancouver, mae’n rhyddhau un CD arall ar ei label.
Cau pen y mwdwl
Mae Goreuon Recordiau Dockrad yn gyfle i gau pen y mwdwl ar bennod ddiddorol o’i fywyd, meddai, ar ôl iddo ddechrau ymddiddori mewn miwsig Cymraeg pan oedd yn ei arddegau yn Aberhonddu yn gwrando ar dapiau Geraint Jarman a Maffia Mr Huws.
Goreuon Recordiau Dockrad, £5.99, ar gael ar itunes a www.dockrad.com
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 10