Rhiannon Michael sy’n gweld bod Twitter yn arf peryglus yn nwylo gwleidyddion…

Gallech chi feddwl bod Llafur yn joio bod yn wrthblaid yn San Steffan. Drychwch beth maen nhw’n ail-drydar ar Twitter, gan gofio bod y Gweinidog Diwylliant newydd yn San Steffan, Jeremy Hunt, wedi cyhoeddi ddydd Mawrth -ar ran llywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol – na fydd cynlluniau Llafur i gael consortiwm newyddion newydd i ddarparu newyddion ar y drydedd sianel yn mynd yn eu blaen. Sylw gan Kirsty Williams, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig o 17 Mawrth eleni:

KirstyAM believes that we need the Government to get on and sign the IFNC contracts before the Tories cancel them and sell Welsh news down the river. 1,268,848,143,000.00 via web Retweeted by welshlabour and 3 others.