Dau fyd yn dod ynghyd sydd yn nofel gynta’r bardd o India, Tishani Doshi. A’r berthynas rhwng ei mam o Ogledd Cymru a’i thad o Gujarati sydd wedi ysbrydoli Pleasure Seekers.
“Mae’n stori gariad yn benna’ oll,” meddai Tishani Doshi wrth Golwg, “sef y ffaith bod menyw o Gymru wedi cwrdd â dyn o’r India a’r ddau’n priodi a gwneud eu cartre’ nôl yn India.”
Cwrdd yn Toronto
Er bod y nofel yn sôn am y ddau yn cwrdd yn Llundain, mewn gwirionedd wnaeth ei rhieni gwrdd yn Toronto yng Nghanada yn y 1960au.
Cafodd mam Tishani Doshi, Eira Roberts ei geni yn Nercwys, Sir y Fflint a symudodd i Ganada yn y cyfnod pan oedd llywodraeth y wlad yn annog pobol o wledydd eraill i ymgartrefu yno.
Aeth ei thad yno am yr un rheswm, ar ôl byw yn Llundain am bedair blynedd.
“Mae’r nofel wedi ei gosod yn yr un cyfnod a wnaeth Mam a Dad gyfarfod.” meddai Tishani Doshi.
“Mae’r rhan gynta’r nofel yn dechrau yn 1968 ac yn mynd lan at 1974 a’r ail ran yn mynd o 1974 tan 1995 a’r drydedd rhan o 1996 tan 2001, felly mae’n rhedeg ochr yn ochr â bywyd fy rhieni.
“Ond yn ogystal â’r stori garu wrth gwrs, mae edrych ar y ddau fyd a sut y daethon nhw ynghyd yn ganolog i’r stori. Roedd stori fy rhieni wedi cydio yn fy nychymyg ac felly’n sail i’r nofel, er wrth gwrs bod dychymyg nofelydd yn amlwg yn Pleasure Seekers!”
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 10