Dechrau caru oedd dechrau’r diddordeb mewn pêl-droed i Beth Mitchell, a hynny yn ei dro yn arwain at dynnu lluniau sy’n cael eu dangos yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.
“Pan ddechreuais i fynd mas gyda fy sboner, Steve, des i sylweddoli’n gloi iawn ei fod yn dwlu ar bêl-droed, a thimau Uwch Gynghrair Cymru yn benodol,” meddai Beth Mitchell.
“Llanelli oedd ei dîm e, ac fe ddechreuais fynd gydag e i bob gêm cartre ac ambell gêm oddi cartre hefyd.”
Felly pan ddaeth yn amser meddwl am thema ar gyfer arddangosfa ffotograffiaeth, daeth Beth Mitchell i’r casgliad bod yr ysbrydoliaeth i’w ganfod yn hobi ei chariad.
“Roedd gweld amrywiaeth y caeau yr oedden ni’n ymweld â nhw er mwyn gwylio Llanelli’n chwarae wedi plannu hedyn,” meddai.
“Llun cynta’r prosiect ‘For the Love of the Game’ yw’r un o gae Porthmadog,” eglura Beth Mitchell.
“Fe aeth Steve a fi i fyny am benwythnos i weld gêm ac fe dynnais lun o’r stand du a coch. Wedi ei weld wedyn, meddyliais fod posibiliadau tynnu lluniau tebyg yng nghaeau eraill Cymru a fyddai’n dal rhywfaint o naws y meysydd unigol.”
Fe aeth Beth Mitchell i bob un o’r 18 stadiwm yn Uwch Gynghrair Cymru dros y tymor sydd newydd fod.
Gweddill y stori yn Golwg, Mehefin 10