Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn Afghanistan heddiw i gynnal trafodaethau gyda’r Arlywydd Hamid Karzai.

Mae’r ymweliad yn cael ei ystyried yn gam ola’ mewn proses o asesu a phwyso a mesur gan y Llywodraeth newydd – roedd yr Ysgrifenyddion Tramor ac Amddiffyn eisoes wedi bod draw.

Er nad oes disgwyl unrhyw benderfyniadau sydyn, roedd David Cameron yn cyrraedd ynghanol ymchwydd mewn trais.

Ddoe, fe gafodd o leia’ 40 o bobol eu lladd mewn ymosodiad ar barti priodas – er bod gwrthryfelwyr y Taliban yn gwadu cyfrifoldeb, nhw sy’n cael y bai gan Lywodraeth Afghanistan.

Aelodau o’r heddlu

Roedd nifer o deulu’r priodfab yn aelodau o heddlu Afghanistan ac mae swyddogion wedi dangos darnau o fetel sydd, medden nhw, yn debyg i’r hyn a gafwyd mewn ymosodiadau eraill gan hunanfomwyr.

Ar y llaw arall, roedd un o’r bobol a oroesodd yr ymosodiad ar babell lle’r oedd y dynion wedi casglu, yn dweud bod y difrod a’r niwed yn llawer mwy nag sy’ cael ei achosi fel arfer gan hunanfomwyr.

Mae yna tua 74 o bobol wedi eu hanafu ac roedd plant ymhlith y rhai sydd wedi eu lladd.

Mae NATO wedi gwadu mai ymosodiad o’r awyr ganddyn nhw oedd yn gyfrifol ac mae’r ardal yn un o gadarnleoedd y Taliban.

Llun: Tad yn cysuro’i fab mewn ysbyty wedi’r ymosodiad (AP Photo)