Mae pryderon am effaith y trychineb olew ar gwmni BP wrth i bris ei gyfrannau syrthio i’w lefel isa’ ers blynyddoedd.

Yn yr Unol Daleithiau, roedden nhw’n is nag ers 14 blynedd ac wedi cwympo i lefelau 2003 ar y Farchnad Stoc yn Llundain.

Heddiw, fe fu Maer Llundain, Boris Johnson, yn ceisio amddiffyn y cwmni rhag ymosodiadau yn yr Unol Daleithiau, lle mae’n cael ei feio am y llif olew anferth yng Ngwlff Mecsico.

Fe gyhoeddodd y cwmni fod costau delio â hynny bellach yn agos iawn at £1 biliwn ond mae’n dweud fod ei ymdrechion diweddara’ i atal yr olew yn llwyddo.

Fe ddechreuodd y cyfan gyda ffrwydrad ar lwyfan olew ar 20 Ebrill – ers hynny mae miliynau o alwyni o olew wedi bod yn gollwng i’r Gwlff bob dydd.

Mae’r pryder am werth y cwmni’n fwy oherwydd bod cymaint o gronfeydd pensiwn Prydeinig yn berchen ar gyfrannau.

Llun; Dechrau gofidiau – y ffrwydrad ar y llwyfan olew (AP Photo)