Mae’r Llywodraeth wedi cael dau rybudd ynglŷn â thoriadau mewn gwario cyhoeddus a’r angen i godi trethi.

Yn ôl mudiad sy’n arbenigo ar gyflogaeth, fe fydd diweithdra yng ngwledydd Prydain yn codi i born 3 miliwn ac yn aros felly am tua phedair blynedd.

Ac fe allai pethau fod yn waeth mewn llefydd fel Cymru, yn ôl awgrym John Philpott o Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Roedd yr argoelion yn “llwm” i unigolion ac ardaloedd sydd eisoes yn diodde’ fwya’, meddai ei adroddiad.

Mae’n rhagweld y bydd diweithdra trwy wledydd Prydain yn codi i 2.95 miliwn oherwydd toriadau mewn gwario cyhoeddus ac y bydd unrhyw gynnydd mewn swyddi’n cael ei atal.

‘Treth ar fanciau nid Treth ar Werth’

Mewn adroddiad arall, mae corff polisi yr IPPR yn dweud bod angen rhoi treth newydd ar fanciau a busnesau ariannol yn hytrach na chodi Treth ar Werth.

Mae’r IPPR – Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus – yn proffwydo y bydd elw’r banciau, y cronfeydd mentro a busnesau ariannol eraill yng ngwledydd Prydain yn codi i £90 biliwn.

Maen nhw’n honni y gallai’r sector fforddio talu £20 biliwn o drethi – cymysgedd o lefi ar y cwmnïau, treth ar elw a threth ar weithgareddau unigol.

Ar y llaw arall, medden nhw, fe fyddai codi Treth ar Werth yn taro’r tlota’n galetach na neb. Mae llawer yn disgwyl cynnydd mewn TAW yn y Gyllideb ymhen wythnos a hanner.

Roedd ymchwil yr IPPR wedi ei gomisiynu gan Ymgyrch y Dreth Robin Hood sy’n ymgyrchu tros dreth ar y banciau.

Llun: Y Ddinas yn Llundain (Gwifren PA)