Mae Iran wedi gwawdio sancsiynau diweddaraf y Cenhedloedd Unedig i geisio atal ei rhaglen niwclear.

Mae’r mesurau newydd yn targedu’r Gwarchodlu Ymerhodrol pwerus, taflegrau balistig a buddsoddiadau niwclear.

Ond, yn ôl Yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad o Iran, maen nhw fel “gwybed plagus, neu hances bapur wedi ei defnyddio”.

Mae Tehran yn parhau i fynnu mai heddychlon yw rhaglen niwclear Iran – mae gwledydd mawr y Gorllewin yn eu hamau o greu arfau niwclear.

Cyfaddawdu tros olew

Ar ôl misoedd o drafod fe fethodd yr Unol Daleithiau â pherswadio Rwsia a China i osod cyfyngiadau ar alfforio olew o Iran.

Roedd gwledydd fel Brasil hefyd wedi dadlau yn erbyn sancsiynau gan ddweud y byddai hynny’n gyrru Iran ymhellach oddi wrth weddill y byd.

Er hynny, yn ôl yr Arlywydd Barack Obama, dyma’r sancsiynau cryfa’ eto yn erbyn y wlad yn y Dwyrain Canol.

Ond mae hefyd wedi awgrymu bod modd parhau i drafod, os bydd Iran yn “parchu” ie chyfrifoldebau rhyngwladol.

“Mae gan weithredoedd ganlyniadau a heddiw fe fydd llywodraeth Iran yn wynebu rhai o’r canlyniadau hynny” meddai Barack Obama – roedd hynny’n cynnwys bod yn “fwy ynysig, yn llai ffyniannus ac yn llai diogel”.

Manylion y sancsiynau

Mae’r sancsiynau newydd hyn yn gwahardd Iran rhag gwneud dim ”sy’n gysylltiedig â thaflegrau balistig a allai gludo arfau niwclear”.

Maen nhw hefyd yn gwahardd Iran rhag buddsoddi mewn gweithgareddau fel cloddio wraniwm a phrynu arfau trwm fel hofrenyddion ymosod a thaflegrau.

Llun Mahmoud Ahmadinejad