Mae 14 o grwpiau iaith wedi sgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am newidiadau sylfaenol yn y Mesur Iaith newydd.

Mewn llythyr agores sydd wedi ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Golwg, maen nhw’n galw am ddatganiad clir bod y Gymraeg yn iaith swyddogol – am y tro cynta’ mewn deddf, medden nhw.

Maen nhw hefyd eisiau amodau cryfach ynglŷn â statws yr iaith, hawliau pobol i’w defnyddio hi a Chomisiynydd Iaith cwbl annibynnol i blismona hynny.

Y llythyr

Mewn llythyr agored at y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mae’r mudiadau – gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Cyfeillion y Ddaear a Merched y Wawr – yn rhybuddio bod cymaint o angen nag erioed am gryfhau hawliau iaith.

“Mae’r iaith Gymraeg yn wynebu bygythiadau o bob tu: toriadau yng nghyllideb S4C, y Cynulliad yn torri’r cofnod dwyieithog, a dyfodol addysg Gymraeg yn y brifddinas,” meddai’r llythyr.

“Mae diffyg hawliau ieithyddol a statws swyddogol i’r iaith Gymraeg wrth wraidd y bygythiadau.”

‘Angen gwneud mwy’

Fe ddywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Merched y Wawr bod y llythyr yn arwydd o’r ffaith y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau cynnwys y mesur er lles pobl Cymru.

“Fe fydd y llythyr hwn yn ychwanegu at y pwysau arnyn nhw i wireddu eu haddewidion. Bydd rhaid aros i weld a oes gan y weinyddiaeth yr ewyllys gwleidyddol i gryfhau’r mesur neu beidio.”