Mae hyfforddwr Cymru wedi awgrymu y bydd un o chwaraewyr gorau’r wlad yn ymddeol ar ôl y tymor nesa’.
Fe ddywedodd Warren Gatland bod y blaenasgellwr wedi penderfynu gorffwys tros yr haf cyn dechrau ar yr hyn fydd “fwy na thebyg” yn dymor ola’ iddo.
Fe ddaeth y sylw wrth i’r hyfforddwr fynegi ei siom nad oedd Martyn Williams yn mynd ar daith Cymru i Seland Newydd y mis yma.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales ei fod wedi gofyn i Williams ddod ond ei fod yntau wedi penderfynu gorffwys cyn y tymor nesa’, tymor Cwpan y Byd.
Mae Martyn Williams wedi ennill 95 o gapiau i Gymru a Warren Gatland oedd wedi ei berswadio i ddod yn ôl i’r tîm cenedlaethol ar ôl iddo gyhoeddi unwaith ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol.