Gyda phryder tros iaith gorsaf Radio Ceredigion, mae Bwrdd yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i orfodi’r corff darlledu Ofcom i ymyrryd mewn achosion o’r fath.
Mae Cadeirydd y Bwrdd, Meri Huws, wedi sgrifennu at y Gweinidog Treftadaeth yn galw arno i ddefnyddio’i bwerau i wneud i Ofcom weithredu.
Ers blynyddoedd, mae’r corff sy’n gyfrifol am reoleiddio radio a theledu wedi dweud nad oes ganddo’r hawl i ymyrryd tros iaith cwmnïau radio masnachol.
Mae’n dweud mai’r cyfan y gall ei wneud yw gorfodi i orsafoedd gadw at amodau eu trwydded – ond dyw hynny ddim yn cynnwys dweud beth yw iaith darlledu.
Gwrthod ymyrryd
Dyna oedd yr ateb pan oedd protestiadau yn erbyn Radio Carmarthenshire, er enghraifft, ac mae Ofcom wedi gwrthod ymyrryd mewn rhagor o achosion tebyg.
Yn awr, mae Bwrdd yr Iaith wedi rhoi’r gorau i drafod gydag Ofcom ac wedi gofyn i Alun Ffred Jones fynnu eu bod yn gosod amodau iaith wrth roi trwyddedau radio.
Mae’r Bwrdd yn dweud y gall hynny ddigwydd trwy Gynllun Iaith Ofcom a bod deddfau darlledu a Deddf yr Iaith yn rhoi’r grym a dyletswydd iddyn nhw wneud hynny.
Pryder yng Ngheredigion
Mae yna bryder tros iaith Radio Ceredigion ers i gwmni Town and Country ei phrynu ddeufis yn ôl.
Er bod y cwmni newydd yn mynnu y byddan nhw’n cadw at addewid y drwydded i gynnal gwasanaeth dwyieithog, mae bron yr holl gerddoriaeth ar yr orsaf bellach yn Saesneg ac mae rhaglenni uniaith Gymraeg yn ystod y dydd wedi cael eu dileu.
Mae Ofcom yn dweud eu bod yn monitro Radio Ceredigion ac y byddan nhw’n dod i gasgliad yn ystod yr wythnosau nesa’. Ond yr unig amod, medden nhw, yw cadw at y drwydded.
Llun: Alun Ffred Jones