Fe fydd gweithwyr yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd heddiw yn cael clywed faint o swyddi sy’n cael eu colli yno.

Y disgwyl yw y gallai cymaint â 100 orfod mynd wrth i’r Llywodraeth yn Llundain dorri ar wario cyhoeddus.

Mae undeb gweision sifil y PCS wedi rhybuddio bod swyddi’n sicr o fynd ond y gobaith yw y bydd modd eu colli heb orfod sacio neb.

Yr Adran Fusnes, Arloesi a Sgiliau sy’n wynebu rhai o’r toriadau mwya’ – cyfanswm o £836 miliwn eleni, gan gynnwys ‘arbedion effeithiolrwydd’ gwerth £100 miliwn.

Mae rheolwyr yn Nhŷ’r Cwmnïau’n dweud mai’r gweithwyr fydd yn cael gwybod gynta’ am y toriadau – yng Nghaerdydd y mae’r pencadlys ond mae yna swyddfeydd mewn ardaloedd eraill o wledydd Prydain hefyd.

Mae mwy na 1,000 o weithwyr yn y ganolfan yng ngogledd y ddinas.