Mae rhai mudiadau gwirfoddol eisoes wedi gorfod cau oherwydd y toriadau mewn gwario cyhoeddus.

Ac yn ôl y corff sy’n cynrychioli’r sector gwirfoddol yng Nghymru mae yna ragor o swyddi a gwasanaethau yn y fantol.

Dywedodd llefarydd o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru wrth golwg360, fod yna “reswm da” i bobol yn y sector gwirfoddol boeni.

“Mae’n sefyllfa anodd”, meddai, “mae’n rhaid aros i weld beth fydd yn digwydd”.

Mae un o’r prif fudiadau sy’n helpu pobol mewn angen hefyd yn poeni y bydd gwasanaethau’n cael eu colli pan fydd mwya’ o angen amdanyn nhw.

CAB yn poeni hefyd

“Mae’n ddyddiau cynnar,” meddai Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru, Fran Targett, wrth golwg360, “ond mae pryder go iawn”.

Mae hi’n poeni am bobol sy’n defnyddio’r gwasanaethau, sydd, lawer ohonyn nhw, yn dibynnu ar gefnogaeth y wladwriaeth.

Mae ansicrwydd arbennig am yr arian a ddaw o’r Cynulliad ac awdurdodau lleol, meddai.

Mae corff canolog Cyngor ar Bopeth eisoes wedi colli 11% o gefnogaeth y flwyddyn meddai, ac mae rhai o’r swyddfeydd annibynnol lleol wedi gweld gostyngiadau hefyd.

Ar gyfartaledd, mae’r nawdd wedi cwympo ryw ychydig eisoes, meddai, ond “mae’r flwyddyn nesaf yn edrych yn llawer mwy anodd.”

Llun: Cyfri arian (o wefan y Cyngor Gwirfoddol)